Am y Cywaith

Roedd yr haul cynnes yn gwenu dros dref fach Lacharn pan ddaeth plant lleol i ddechrau'r flwyddyn ysgol gyda gwaith a oedd yn rhyfeddol o greadigol.  Yn ystod un wythnos mis Medi daeth 280 o blant Blynyddoedd 6 a 7 o Ysgol Gyfun Dyffryn Taf ac Ysgolion Cynradd Cwmbach, Griffith Jones, Hafodwenog, Hendy-gwyn, Henllan Amgoed, Lacharn, Llanboidy, Llanddowror, Llangynin, Llanmilo, Meidrim a Thremoilet i weithio gydag adroddwr proffesiynol storïau ac arlunydd proffesiynol.  Roedd yna fyfyrwyr Blynyddoedd 12 a 13 Ysgol Gyfun Dyffryn Aman hefyd.  Gwnaethant ffilm i hyrwyddo’r Boathouse yn Lacharn fel rhan o'r cwrs Astudio'r Cyfryngau.

Dechreuodd y chwedleuwr Mary Medlicott eu sesiynau gan adrodd rhai o’u storïau wedi'u gwreiddio'n gadarn yn nirwedd, traddodiadau a chofion Cymru.  Aeth â phob grw^p o blant am Dro Cofio lleol.  Anogwyd y plant i sylwi ar y byd o'u cwmpas a rhannu eu syniadau a meddyliau.  Gweithiodd y plant ar eu storïau eu hun gyda chefnogaeth Mary.  Aethant yn ôl i'r ysgol i sgleinio'r storïau cyn iddynt ymweld â Lacharn am yr ail dro a darllen y storïau o flaen y grw^p.

Aeth yr arlunydd tirwedd Catrin Webster i'r Boathouse â'i grwpiau o blant.  Arhosodd y plant ar y ffordd mewn lle gyda golygfa dda a chawsant gyflwyniad i ddulliau dyfrlliw gan Catrin.  Anogodd Catrin y plant yn yr un modd â Mary i sylwi'n fanwl ar eu byd ac atgynhyrchu'n gywir arlliwiau'r aber a'r awyr sy'n ymestyn heibio'r castell i'r de-orllewin.  Ar ôl cyrraedd y Boathouse gweithiodd y plant gyda phasteli er mwyn creu lliw fflamgoch mynawyd y bugail a lliwiau cen y cerrig, y golau ar y dw^r lleidiog islaw, pïod y môr a chathod y Boathouse.  Wedyn, yn neuadd y pentref, gweithiodd y plant gyda dulliau darlunio a gwneud printiau gan ddod o hyd i'r geiriau cywir i fynd gyda'r lluniau a grëwyd ganddynt.
Canlyniad i waith ardderchog y ddau arlunydd, y dirwedd a geiriau Dylan Thomas oedd y brwdfrydedd, dychymyg, ysbrydoliaeth a thân creadigol a brofwyd gan y plant yr wythnos honno.

 
Yn ôl